Rhif y ddeiseb: P-06-1328

 

Teitl y ddeiseb:  Dylid sicrhau bod yr holl weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cael eu talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol newydd (£10.90) ar unwaith.

 

Geiriad y ddeiseb:  Gwnaeth Llywodraeth Cymru addewid i dalu'r cyflog byw GWIRIONEDDOL i weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru, a oedd yn £9.90. Ym mis Medi, cynyddodd y Cyflog Byw Gwirioneddol a osodwyd gan y Real Living Wage Foundation (RLFW) i £10.90. Mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn ceisio cael dau ben llinyn ynghyd mewn argyfwng costau byw. Maen nhw'n gweld gweithwyr achrededig y RLWF yn cael o leiaf £1 yr awr yn rhagor na hwy mewn swyddi llawer llai medrus. Fe fyddan nhw'n gadael y sector yn fuan!
https://llyw.cymru/gweithredur-cyflog-byw-gwirioneddol-ar-gyfer-gweithwyr-gofal-cymdeithasol

 

Mae angen i arian gael ei alinio i ddyddiad gweithredu'r Real Living Wage Foundation (mis Tachwedd bob blwyddyn), neu bydd gweithwyr gofal cymdeithasol yn teimlo hyd yn oed yn fwy anniddig pan fydd yn codi eto y flwyddyn nesaf. Mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn teimlo eu bod yn cael eu tanbrisio'n fawr a’u bod yn cael cam gan Lywodraeth Cymru.

 

 


1.        Y cefndir

Mae'r Cyflog Byw Gwirioneddol yn gyfradd fesul awr o gyflog sy’n cael ei osod yn annibynnol a’i ddiweddaru’n flynyddol ac mae’n wahanol i Gyflog Byw Cenedlaethol Llywodraeth y DU. Mae’n cael ei gyfrifo yn ôl costau byw sylfaenol yn y DU, ac mae cyflogwyr yn dewis talu’r Cyflog Byw Gwirioneddol yn wirfoddol.

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Cyflog Byw Gwirioneddol ar gyfer gofal cymdeithasol ym mis Ebrill 2022.

Ym mis Medi 2022, cyhoeddodd y Sefydliad Cyflog Byw y bydd y Cyflog Byw Gwirioneddol yn codi i £10.90 yr awr y tu allan i Lundain. Anogodd y Sefydliad Cyflog Byw ei gyflogwyr achrededig i weithredu'r codiad cyflog cyn gynted â phosibl, ond erbyn 14 Mai 2023 fan bellaf.

Cafodd cyfraddau’r Cyflog Byw Gwirioneddol ar gyfer 2022 eu dwyn ymlaen i gydnabod y cynnydd sydyn mewn costau byw dros y flwyddyn flaenorol.

2.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 5 Hydref 2022, cyfeiriodd Mark Isherwood AS at gyfarwyddwr cartref gofal a oedd wedi dweud wrtho nad oedd Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod arian ar gael i ddarparwyr drwy’r awdurdodau lleol i’w galluogi i dalu’r cynnydd yn y Cyflog Byw Gwirioneddol a gyhoeddwyd ym mis Medi 2022. Roedd cyfarwyddwr y cartref gofal yn ofni y gallai mwy o weithwyr gofal adael y sector o ganlyniad i'r diffyg cynnydd mewn cyflogau.

Yn y Cyfarfod Llawn ar 19 Hydref 2022, gofynnodd Mark Isherwood AS hefyd pryd y byddai’r cynnydd yn y Cyflog Byw Gwirioneddol (i £10.90 yr awr) ar gael i ddarparwyr drwy awdurdodau lleol. Ymatebodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol drwy ddweud bod y codiad i’r Cyflog Byw Gwirioneddol yn cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru, a dywedodd:

Wrth gwrs ein bod am ei dalu, ond rwy'n credu y byddwch yn ymwybodol nad yw'r amgylchiadau ariannol ar hyn o bryd yn galonogol iawn. Ond mae hyn yn rhywbeth y byddem yn sicr eisiau ei wneud.

Amlygwyd yn y cyfryngau ym mis Chwefror 2023 bod awdurdod lleol wedi trosglwyddo cyllid i gwmni gofal preifat ym mis Ebrill 2022 i gynyddu cyflogau i dalu’r Cyflog Byw Gwirioneddol. Fodd bynnag, ni chynyddodd y cwmni gofal preifat y cyflog tan fis Hydref.

Cyfeiriodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd at y Cyflog Byw Gwirioneddol yn ei adroddiad ar Ryddhau cleifion o’r ysbyty ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai (Mehefin 2022). Mae’n nodi, er bod buddsoddiad £40 miliwn Llywodraeth Cymru yn y gweithlu gofal cymdeithasol a’i hymrwymiad i ddarparu’r Cyflog Byw Gwirioneddol wedi cael ei groesawu’n eang, roedd llawer o ymatebwyr, gan gynnwys BMA Cymru, yn teimlo nad oedd yn mynd yn ddigon pell. Yn eu tystiolaeth ysgrifenedig i’r ymchwiliad, mae CLlLC a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn nodi:

“[…] it is becoming increasingly clear that our ambition must go beyond this if we really want to be able to offer ‘fair pay’ for those who are undertaking some of the most important roles in society. There is also a need to take immediate action – the workforce challenges are already with us, and so there is a need to do all we can to increase social care workers pay now, there is simply no room to delay.” [paragraff 105]

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod nad yw cyflawni’r Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol yn unig yn ddigon i fynd i'r afael â phrinder staff a dywed fod y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol yn gweithio ar gynigion pellach ar gyfer gwelliannau.

3.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Yn y llythyr at y Pwyllgor Deisebau dyddiedig 29 Mawrth 2023, mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella telerau ac amodau cyflogaeth yn y sector gofal cymdeithasol. Mae’r Dirprwy Weinidog yn mynd ymlaen i ddweud bod Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o’r angen brys am gymorth i fynd i’r afael â materion cyflog, recriwtio a chadw, a waethygwyd gan yr heriau a gyflwynwyd yn ystod y pandemig COVID-19 a’r argyfwng costau byw, ac ym mis Ebrill 2022 darparodd £43 miliwn o gyllid ar gyfer 2022/23, a ddarparodd godiad cyflog i grŵp o weithwyr allweddol.

Mae’r llythyr yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn darparu amcangyfrif o £70 miliwn yn 2023/24 i dalu’r codiad Cyflog Byw Gwirioneddol o £10.90 yr awr, gyda gweithwyr yn teimlo'r budd erbyn mis Mehefin 2023.

Mae’r Dirprwy Weinidog yn nodi y cytunir ar waith cynllunio cyllideb Llywodraeth Cymru yn yr hydref ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol, ac:

Ar hyn o bryd, nid ydym mewn sefyllfa i godi’r cyflog nac ymrwymo i ragor o gyllid gan nad oes gennym unrhyw gronfeydd wrth gefn eleni er mwyn gallu gweithredu’r codiad cyflog yn gynt.

Dywedir mai blaenoriaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru, yng nghyd-destun y pwysau ehangach y mae’r sector gofal cymdeithasol yn ei wynebu, yw cael “y cyllid rydym eisoes wedi’i addo i bocedi’r gweithwyr”. Mae’r Dirprwy Weinidog yn tynnu sylw at y ffaith bod hwn yn “ymrwymiad sylweddol a chymhleth” gan fod cannoedd o gyflogwyr ym maes gofal cymdeithasol.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn o reidrwydd yn cael eu diweddaru na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.